Fy nymuniad, paid â gorffwys Ar un tegan is y nef; Eto 'rioed ni welodd llygad Wrthrych tebyg iddo Ef: Cerdda rhagot, 'Rwyt ti bron a'i wir fwynhau. Ffárwel, ffárwel oll a welaf, Oll sydd ar y ddaer yn byw; Gedwch imi, ond munudyn, Gael yn rhywle gwrdd a'm Duw: Dyna leinw 'Nymuniadau oll yn un. D'air a wnaeth y moroedd helaeth, D'air a wnaeth y ddaear fawr, D'air a greodd lu'r ffurfafen Sydd yn hongian uwch y llawr: 'Mysg a greaist, 'Does gyffelyb it dy Hun. Tyrd, yr Hwn wyt yn hawddgarach Na'th greaduriaid maith eu rhi'; Pryd y doi, y gwnei dy drigfan Bob munudyn gyda mi? Tyrd yn fuan, Arglwydd, at y sawl a'th gâr.William Williams 1717-91 Ffarwel Weledig 1763
Tonau [878747]:
gwelir: |
My desire, do not rest On any trinket under heaven; Never yet has any eye seen An object like unto Him: Walk on, Thou art almost truly enjoying him. Farewell, farewell to all I see, All that is living on the earth; Let me, only for a moment, Somewhere get to meet my God: That will fulfil My desires all in one. Thy word made the vast oceans, Thy word made the great earth, Thy word created the host of the firmament Which are hanging above the earth: Amongst what thou hast made, There is nothing comparable to thee Thyself. Come, thou who art more beautiful Than thy creatures of vast number; When thou comest, wilt thou make thy abode Every moment with me? Come soon, Lord, to those thou lovest.tr. 2011 Richard B Gillion |
|